|
Drwy ddefnyddio olew ar gynfas a chyfryngau cymysg ar bapur, rwy’n chwilio am ddyfeisiau a fydd yn fy ngalluogi i greu gweithiau aml haenog. Mae technegau llunio printiau digidol ar y cyd a pheintio wedi fy ngalluogi i gynhyrchu gwaith ar raddfa fach a mawr sy’n ymgorffori deunydd o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a deunyddiau o Brifysgol Brest, yr Academi Wyddelig a Choleg y Dindod, Dulyn. Drwy gyfosod testunau a gwrthrychau hapgael ar arwynebau yn creu prosesiwn o ddelweddau, cyfluniadau a chyfansoddiadau dathliadol. Mae eitemau unigol yn cyfeirio at enwogion hanesyddol a gyfrannodd tuag at ddiogelu llawysgrifau Cymraeg ar gyfer y dyfodol: Ieuan Fardd, Lewis Morris, Edward Lhuyd, Iolo Morgannwg a Syr John Rhŷs. Bydd y sawl sy’n gyfarwydd â llenyddiaeth Gymraeg yn adnabod dyfyniadau o’r Gododdin, Taliesin, a’r Mabinogi.
Y ffordd orau i ddod i ben â darllen testunau hynafol neu estron yw drwy ddefyddio dull o edrych perifferol neu ogwyddol, rhyw fath o ddarllen rhwng y llinellau. Mae’r gwaith yn amlygiad o’r “arall”.’
Iaith Gyntaf | Taith

|