Mae y delweddau yn dangos dewis o weithiau o’r arddangosfa “Iaith Gyntaf”, “First Language”, a welwyd gyntaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Haf 2006 ac sydd ar daith i orielau yng Nghymru, yr Iwerddon a Llydaw.
Mae y gweithiau hyn yn cynnwys delweddau digidol o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a phaent acrylic ar vinyl.
Ffrwyth cydweithrediad efo Tom Piper a’r Grwp V6 o artistiaid yng Nghaerdydd yw y gweithiau hyn syn defnyddio y dechnoleg ddigidol.
Archwilio hunaniath drwy ganolbwyntio ar iethioedd lleiafrifol, yn arbennig y Gymraeg a'i chwaer ieithoedd, Llydaweg, Cernyweg, Gwyddeleg, a Gaeleg yw thema arbennig yr arddangosfa. Er mae am ei phaentiadau olew ar gynfas y mae Mary’n fwyaf adnabyddus, mae’r thema hon wedi ei galluogi i arbrofi gyda chyfryngau cymysg a thechnegau llunio printiau digidol gan ymgorffori testunau o gasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol.
Rhagor y wybodaeth | Taith
Dewiswch delwedd isod i weld gwaith yn yr arddangosfa:

|